Show Toolbar
  • Show Caption
  • Hide Thumbmails
  • New Category
  • Show Categories
  • Play Slide Show
  • Display in Full Screen
  • Hide Toolbar
Golygfeydd o amgylch Gwersyllt
 
 

Croeso i wefan Cyngor Cymuned Gwersyllt


Mae Cynghorwyr Cymuned yn cael ei dewis o'r gymuned leol i gynrychioli eu cyd breswylwyr, ymwelwyr a phobol sydd yn gweithio yn y gymuned. Maent yn gwirfoddoli eu hamser i helpu gyda darparu gwasanaethau ac i wella'r ardal leol ar gyfer yr holl breswylwyr. Mae'r Cyngor yn codi cyllideb bob blwyddyn, sef y Precept sy'n cael ei gyfrannu o'r Dreth Gyngor sy'n cael ei dalu gan aelwydydd yn yr ardal i'w wario ar yr ardal leol.

Mae cyfrifoldebau'r Cyngor Cymuned yn cynnwys darparu goleuadau troedffordd, patrolau croesi ysgol, meysydd chwarae i blant, a darparu cyllid ar gyfer darpariaeth ieuenctid, Cyngor ar Bopeth, yn ogystal â chefnogi llawer o grwpiau lleol i enwi ond ychydig.

Cyngor Cymuned Gwersyllt sy'n gofalu am y wefan hon. Mae yma i wasanaethu trigolion ac ymwelwyr gyda gwybodaeth am y Cyngor Cymuned a'n busnes.

Amdanom

Cyfarfod Nesaf


Cyfarfod Misol

Dydd Mercher 15 Ebrill 2026, yn dechrau am 6:30pm, yn Y Ganolfan Adnoddau Cymunedol Gwersyllt.

Rhaglenni